Ymwadiad Atebolrwydd
Er y gwnaed pob ymdrech i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth ar y wefan hon, fe all rhai manylion newid. Mae Adran Twristiaeth Cyngor Sir Ddinbych sydd yn rheoli’r wefan, yn adolygu ac yn datblygu’r cynnwys yn gyson. Cysylltwch â ni os oes gennych chi unrhyw amheuaeth ynghylch y cywirdeb.
Gwneir pob ymdrech gan tîm Llysgennad Cymru i wirio’r ffeiliau sydd ar gael i’w lawrlwytho ar y safle hwn. Nid yw’r tîm Llysgennad Cymru yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod a achosir drwy ddefnyddio’r deunydd y gellir ei lawrlwytho o’r safle hwn. Rydym yn argymell bod pob defnyddiwr yn gwirio’r holl ddeunyddiau sydd wedi’u lawrlwytho gyda’u meddalwedd gwrthfeirysau eu hunain.
Preifatrwydd
Mae tîm Llysgennad Cymru yn ymrwymedig i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd.
Mae’r Polisi hwn yn egluro pryd a pham ein bod yn casglu gwybodaeth bersonol am bobl sy’n ymweld â’n gwefan, sut rydyn ni’n ei defnyddio, pryd y byddwn ni’n ei datgan i bobl eraill a sut rydyn ni’n ei chadw’n ddiogel.
Gellir gwneud newidiadau i’r Polisi hwn o bryd i’w gilydd, felly gwiriwch y dudalen hon bob hyn a hyn er mwyn sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau. Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cytuno i’n Polisi a’n hymarferion data.
Dylid anfon unrhyw gwestiynau’n ymwneud â’r Polisi hwn drwy e-bost at twristiaeth@sirddinbych.gov.uk.
Sut ydyn ni’n casglu gwybodaeth gennych chi?
Rydym yn cael gwybodaeth amdanoch chi pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan, neu pan fyddwch yn creu cyfrif ar y wefan.
Pa fath o wybodaeth a gesglir gennych chi?
Gall yr wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu gennych gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad IP, gwybodaeth ddemograffig megis cod post a gwybodaeth yn ymwneud â pha dudalennau y ceir mynediad atynt, ac yn mha drefn.
Os byddwch chi’n clicio ar y dolenni yn y wefan hon, byddwch yn mynd drwodd at wefan trydydd parti, ac rydym yn argymell eich bod yn gwirio eu telerau ac amodau a’u datganiad preifatrwydd.
Sut caiff eich gwybodaeth ei defnyddio?
Efallai y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth at y dibenion canlynol:
- cadw cofnodion mewnol o’r defnydd o’r wefan
- gwella ein cynnyrch a’n gwasanaethau
- anfon negeseuon atoch chi yn ymwneud â Chynllun Llysgennad, yn ogystal â newyddion twristiaeth, gwybodaeth a digwyddiadau a allai fod o ddiddordeb i chi
- ceisio eich barn neu sylwadau ar ein gwasanaethau
- eich hysbysu am newidiadau i’n cynnyrch a/neu wasanaethau
*Cwrs Llysgenhadon Diwylliannol
Nodwch fod pob tystysgrif ar gyfer y Cwrs Llysgenhadon Diwylliannol yn cael eu hanfon drwy’r post, a dylech ganiatáu 10 diwrnod gwaith i dderbyn eich tystysgrif. Os hoffech dderbyn copi digidol o’ch tystysgrif drwy e-bost, cysylltwch â cymraeg2050@llyw.cymru.
Ppan fyddwch yn cwblhau’r lefel Efydd, mi fydd Llywodraeth Cymru yn anfon eich tystysgrif gyda phecyn o wybodaeth am wasanaeth Helo Blod, y gwasanaeth cyfieithu a chyngor ar sut mae defnyddio mwy o Gymraeg am ddim ac unrhyw becyn gwybodaeth perthnasol sydd am eich cefnogi fel llysgennad.
Am ba mor hir fyddwn ni’n cadw eich data?
Rydym yn adolygu ein cyfnodau cadw gwybodaeth bersonol yn rheolaidd. Mewn rhai achosion, mae’n ofynnol i ni yn ôl y gyfraith i gadw mathau penodol o wybodaeth i gyflawni ein rhwymedigaethau statudol (er enghraifft bodloni amodau ariannu). Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol ar ein systemau mor hir â sydd angen ar gyfer y gweithgarwch perthnasol.
Pwy sy’n cael mynediad at eich gwybodaeth?
Ni fyddwn yn gwerthu, rhentu nac yn rhannu eich gwybodaeth â thrydydd partïon. Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â thrydydd partïon pe bai’n ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith, er enghraifft drwy orchymyn llys neu at ddibenion atal twyll neu drosedd arall.
Eich dewisiadau
Mae gennych chi ddewis ynghylch p’un a hoffech chi gael gwybodaeth gennym ni ai peidio. Ni fyddwn ni’n cysylltu â chi oni bai eich bod yn rhoi caniatâd i ni wneud hynny ymlaen llaw. Gallwch newid eich dewisiadau marchnata ar unrhyw adeg drwy gysylltu â ni dros e-bost: twristiaeth@sirddinbych.gov.uk
Rydyn ni am wneud yn siŵr bod eich gwybodaeth bersonol yn gywir ac yn gyfredol. Cysylltwch â ni i gywiro neu dynnu gwybodaeth sy’n anghywir neu’n anghyflawn yn eich barn chi, neu os byddwch am roi gwybod i ni am newid i’ch enw neu gyfeiriad e-bost.
Rhagofalon diogelwch ar waith i ddiogelu colled, camddefnydd neu addasiad i’ch gwybodaeth
Pan fyddwch chi’n rhoi gwybodaeth bersonol i ni, rydyn ni’n cymryd camau i sicrhau y caiff ei drin yn ddiogel.
Caiff manylion nad ydynt yn rhai sensitif (eich cyfeiriad e-bost ac ati) eu trosglwyddo fel arfer dros y rhyngrwyd, ac ni ellir gwarantu bod hyn 100% yn ddiogel. O ganlyniad, er ein bod yn ymdrechu i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol, ni allwn warantu diogelwch unrhyw wybodaeth rydych chi’n ei throsglwyddo i ni, a byddwch yn gwneud hynny ar eich menter eich hun. Unwaith y byddwn ni’n cael eich gwybodaeth, byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau ei bod yn ddiogel ar ein systemau. Os byddwn ni wedi rhoi (neu os byddwch chi wedi dewis) cyfrinair sy’n galluogi i chi gael mynediad at rannau penodol o’n gwefannau, chi sy’n gyfrifol am gadw’r cyfrinair hwn yn gyfrinachol. Gofynnwn i chi beidio â rhannu eich cyfrinair gydag unrhyw un.
Polisi Mynediad Di-Awdurdod at Ddata
Yn yr achos annhebygol iawn y byddai digwyddiad o fynediad di-awdurdod at ddata sy’n rhoi eich data personol, eich hawliau a’ch rhyddid mewn perygl, fe fyddwn ni, heb oedi diangen a lle bo’n bosibl, yn eich hysbysu chi a Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am y mynediad di-awdurdod at ddata, dim hwyrach na 72 awr ar ôl dod yn ymwybodol ohono.
Defnyddio ‘cwcis’
Ffeiliau testun yw cwcis a osodir ar eich cyfrifiadur i gasglu data log rhyngrwyd safonol a gwybodaeth ymddygiad ymwelwyr. Defnyddir y wybodaeth hon i olrhain defnydd ymwelwyr o’r wefan ac i lunio adroddiadau ystadegol ar weithgarwch gwefan. Gallwch osod eich porwr i beidio â derbyn cwcis.
Dolenni i wefannau eraill
Mae ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill a gynhelir gan sefydliadau eraill. Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn berthnasol i’n gwefan yn unig‚ felly rydym yn eich annog i ddarllen y Datganiadau Preifatrwydd ar y gwefannau eraill yr ydych yn ymweld â nhw. Ni allwn gymryd cyfrifoldeb am Bolisïau Preifatrwydd, Datganiadau ac ymarferion safleoedd eraill, hyd yn oed os byddwch yn mynd iddyn nhw gan ddefnyddio dolenni o’n gwefan.
16 neu iau
Rydym yn ymrwymedig i ddiogelu preifatrwydd plant 16 oed neu iau. Os ydych chi’n 16 oed neu iau, gofynnwch am ganiatâd eich rhiant/gofalwr cyn i chi roi gwybodaeth bersonol i ni.
Adolygu’r Polisi hwn
Rydym yn adolygu’r Polisi hwn yn rheolaidd. Diweddarwyd y Polisi hwn ym mis Rhagfyr 2023.