Staff Rheilffordd Llangollen a Chorwen yn dod yn Llysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych

Cyn Wythnos Llysgennad Cymru eleni, a gynhelir rhwng 18-22 Tachwedd, mae staff a gwirfoddolwyr Rheilffordd Llangollen a Chorwen wedi dod yn Llysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych.

Staff and vilunteer Denbighsire Ambassadors at Llangollen and Corwen Railway

Mae Cwrs Llysgenhadon Sir Ddinbych yn darparu cyfleoedd hyfforddiant ar-lein i ddysgu a gwella eich gwybodaeth am nodweddion unigryw’r Sir ac yn rhan o’r Cynllun Llysgennad Cymru ehangach, sy’n rhoi gwybodaeth a hyfforddiant ar-lein am ddim ar nodweddion arbennig ardaloedd eraill ar draws Cymru.

Cynigir cyrsiau tebyg ym Mharc Cenedlaethol Eryri, Conwy, Gwynedd, Ynys Môn, Sir y Fflint, Wrecsam, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Ceredigion a Sir Gâr.

Mae amrywiaeth o weithgareddau wedi’u trefnu trwy gydol yr wythnos ar gyfer Wythnos Llysgennad Cymru, gyda’r bwriad o dynnu sylw at yr amrywiaeth eang o bobl sydd wedi elwa o ddod yn llysgennad trwy’r Cynllun Llysgennad Cymru.

Mae’r cynllun ei hun ar agor i bawb ac yn cynnig ffordd unigryw o ddysgu mwy am Gymru trwy gyfres o fodiwlau ar-lein ar amrywiaeth o themâu. Gyda’r bwriad o lansio ym mis Tachwedd, bydd aelodau yn gallu cael mynediad at y modiwl llwybrau’r arfordir a llwybrau cenedlaethol newydd, lle gallant ddysgu mwy am Arfordir Cymru gyda phwyslais penodol ar Lwybr Clawdd Offa sy’n rhedeg drwy Sir Ddinbych, Llwybr yr Arfordir Sir Benfro a Llwybr Glyndŵr.

Ar hyn o bryd mae dros 4,850 o bobl wedi cofrestru ar gyfer Cynllun Llysgennad Cymru gyda dros 3,660 o bobl eisoes ar y lefel efydd. Mae dros 8,750 o fathodynnau efydd, arian ac aur wedi’u dyfarnu hyd yma, gyda dros hanner y rhai sydd wedi cael y wobr efydd yn datblygu trwy’r modiwlau i gyrraedd y safon aur.

Llangollen and Corwen Railway staff with their Ambassador awards.

Dywedodd Nicola Reincke, Rheolwr Ansawdd a Hyfforddiant Rheilffordd Llangollen:

“Penderfynom gyflwyno Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych fel cwrs gwirfoddol ar gyfer ein gwirfoddolwyr a staff sy’n wynebu cwsmeriaid gan ein bod yn teimlo y byddai’n gwella’r profiad i gwsmeriaid y gallwn ni ei roi i’n hymwelwyr yn y rheilffordd. Mewn pythefnos, llwyddodd 10 o bobl i gyflawni’r safon aur ac mae llawer mwy ar y daith honno hefyd.

“Mae’r nifer sydd wedi manteisio ar y cynllun a’r adborth wedi bod yn wych. Er fy mod wedi byw a gweithio’n agos ar hyd fy oes, bellach mae angen i mi ailymweld â’r holl drefi yn Sir Ddinbych i archwilio’r hyn rwyf wedi’i ddysgu ar y cynllun. Mae’n gwrs diddorol i’w wneud ac yn rhoi dealltwriaeth drylwyr a chyfoethog o’n cymunedau a’n hanes yn Sir Ddinbych”.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:

“Mae’n galonogol iawn gweld unigolion o fewn y diwydiant twristiaeth yn y Sir yn elwa o’r cynllun llysgennad hwn. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i reoli’r cynllun a pharhau i weithio gyda’n partneriaid i archwilio cyfleoedd newydd, i wella’r profiad y mae twristiaid yn ei gael pan fyddant yn ymweld â Sir Ddinbych. Mae cyflwyno’r modiwl llwybr yr arfordir a llwybrau cerdded newydd yn enghraifft wych o hyn.”

Am fwy o wybodaeth am ddod yn Llysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych, ewch i dudalen benodol Sir Ddinbych ar wefan neu, i glywed mwy am yr hyn sydd gan y llysgenhadon eu hunain i’w ddweud, ewch i’w tudalen. Bydd nifer o weithgareddau yn cael eu trefnu yn ystod Wythnos Llysgennad Cymru, am fwy o wybodaeth ewch i wefan Llysgennad Cymru.