Rhaglen Gweithgareddau Rhwydweithio Llysgenhadon Twristiaeth Cymru

Yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd, yn y cyfnod yn arwain at Wythnos Llysgenhadon 2024, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnal cyfres gyffrous o ddigwyddiadau wedi’u hanelu at ategu’r wybodaeth y mae eu Llysgenhadon Twristiaeth eisoes wedi’i dysgu ar-lein trwy’r Cynllun Llysgenhadon Cymru. Mae hefyd yn gyfle i’r Llysgenhadon ddod at ei gilydd!

*Plas Mawr, Conwy

Plas Mawr, Conwy

Mae’r digwyddiadau’n cynnig rhywbeth a fydd yn addas ar gyfer ystod o ddiddordebau gan gynnwys bwyd a diod, hanes, atyniadau, teithio a chwedlau lleol. Bydd yr holl ddigwyddiadau yn cael eu harwain gan dywysydd ac yn cynnig mewnwelediad gwych i’r ardal, ac yn gyfle i fwynhau lluniaeth. Maent hefyd ar gael am ddim i Lysgenhadon Twristiaeth Conwy.

Gan ddechrau ar 7 Hydref gallwch ddewis dysgu sut i ymgysylltu ag ymwelwyr sydd o bosibl yn fyddar neu â nam ar eu clyw, neu ganfod beth yw buddion cynnig bwyd a diod o Gymru i’ch cwsmeriaid.

Efallai yr hoffech ehangu’ch dealltwriaeth o Sir Conwy, naill ai ar drên neu ar daith gerdded dywysedig, trwy gyfrwng storïau hanesyddol, archeolegol a diwylliannol a fydd yn ychwanegu ystyr ac arwyddocâd i dirluniau’r sir.

*View of Betws y Coed

Betws y Coed

Cewch ymweld ag atyniadau lleol i ddarganfod yr hanes rhyfeddol y tu ôl i rai o’n hadeiladau eiconig (ac ambell ysbryd), neu ddarganfod mwy am gyfraniad chwyldroadol Sir Conwy at lwyddiant goresgyniad D-Day yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Mae rhywbeth arbennig yn digwydd yn Oriel Mostyn yn Llandudno mewn siwrnai ymdrochol a rhyngweithiol trwy Wlad Hud Alice – gyda the prynhawn i ddilyn wrth gwrs!

Mae mwy o ddigwyddiadau’n cael eu hychwanegu ac mae’r lleoedd yn cael eu harchebu’n gyflym, felly ewch i’r wefan archebu yma i weld y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd ac i archebu’ch tocynnau.

Cynhelir Wythnos Llysgenhadon eleni rhwng 18 a 22 Tachwedd. Cadwch eich llygaid ar agor am fwy o ddigwyddiadau i ddathlu ein Llysgenhadon Cymreig.

Cefnogir y digwyddiadau hyn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU fel rhan o’r Prosiect Gwella a Diogelu’r Economi Ymwelwyr ar gyfer y Dyfodol.

Funded by UK Government Cefnogir gan Llywodraeth y DU