Gweithio yn un o’r meysydd hyn – awyr agored, celfyddydau, lles, sgiliau, addysg? Gweithio yn ardal Carneddau? Ymunwch â’n Rhwydwaith Cyflenwyr!
Rydym yn bwriadu cefnogi busnesau lleol, ac yn awyddus i hwyluso’r broses o wneud tendr am brosiectau addas.
Dros y pedair blynedd nesaf bydd cynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yn rhyddhau degau o gontractau. Bydd y contractau hyn yn cynnig cyfleoedd i fusnesau lleol ein harwain a’n cefnogi ar brosiectau fel cynlluniau celf, rhaglenni addysg awyr agored, gweithdai sgiliau, adnoddau addysg, prosiectau lles, ynghyd â nifer o gyfleoedd eraill.
Os ydych chi’n fusnes yn ardal y Carneddau gyda diddordeb mewn gweithio gyda ni, dewch i ddarganfod mwy am y Rhwydwaith Cyflenwyr!!
Ychydig cyn y Nadolig cyrhaeddodd prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd garreg filltir arbennig drwy gyflwyno adroddiad hanner tymor cyntaf i’r Comisiwn Ewropeaidd. Mae rhai o’r llwyddiannau hyd yn hyn yn cynnwys:
- Sicrhau cytundebau rheoli Rhododendron ponticum ar 641.4 ha o goedtiroedd derw brodorol sy’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, a 2487.9 ha o diroedd sy’n amgylchynu coedwigoedd ac o ganlyniad felly yn lleihau’r potensial o ailhadu;
- Cyflwyno pori cadwraethol i oddeutu 157 o goedlannau ACA ar 5 safle;
- Ymgysylltu a dros 3,000 o unigolion hyd yn hyn, o ddisgyblion ysgol i reolwyr tir ac ecolegwyr proffesiynol.
Mae adnoddau addysg bellach ar gael ar ein gwefan a llawer mwy yn barod i’w hychwanegu dros yr wythnosau nesaf. Cofiwch ymweld â’r wefan er mwyn dysgu mwy.