Cynllun Llysgenhadon newydd i atgyfnerthu profiad dysgu am Rinweddau Arbennig Eryri
Mae Llysgennad Eryri wedi ei ddatblygu ar gyfer y diwydiant twristiaeth lleol ond yn cynnig hyfforddiant o safon uchel i unrhyw un sy’n dymuno dysgu mwy am yr hyn sy’n gwneud Eryri yn arbennig. O’n tirweddau hanesyddol eiconig, i fywiogrwydd yr iaith Gymraeg, fe fydd y rhaglen hyfforddiant ar-lein yn cynnig rhywbeth at ddant pawb. Y gobaith ydyw y bydd y wybodaeth yn cael ei rannu’n eang gan annog dealltwriaeth lawn o’r ardal yn ei chyfanrwydd.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cydweithio gydag awdurdodau lleol eraill fel rhan o Gynllun Llysgennad Gogledd Cymru, gan gynnwys Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistrefol Conwy, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Gwynedd. Fe fydd gan bob awdurdod gynllun unigol penodol gyda’r cynlluniau i gyd yn cael ei hyrwyddo ar y cyd er mwyn cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosib.
O dan faner Cynllun Llysgennad Gogledd Cymru, mae darpariaeth Llysgennad Eryri yn cynnwys 12 modiwl hyfforddiant ar-lein sydd yn adlewyrchiad o Rinweddau Arbennig y Parc. Mae cynnwys y modiwlau yn amrywio o waith gwreiddiol, i destun ffeithiol gyda llawer iawn o’r cynnwys wedi dod fel cyfraniad gan arbenigwyr lleol ar draws y rhanbarth.
Yn ystod y lansiad dangoswyd am y tro cyntaf gynhyrchiad arbennig sy’n adlewyrchu Rhinwedd Arbennig – Ysbrydoliaeth i’r Celfyddydau gan y gyfansoddwraig a chantores Casi a’r animeiddwraig, Lleucu Non.
Dywedodd Casi:
“Braint ydi cyflwyno darn o waith gwreiddiol i ddathlu lansio cynllun newydd Llysgennad Eryri. Ein nod yw dal hud a harddwch yr ardal eithriadol hon ar ffurf alawon a delweddau sydd wedi eu hysbrydoli gan ein cysylltiad dwfn gyda’i thiroedd a’i diwylliant. Roedd hi’n teimlo’n naturiol i gyd-weithio gyda’r animeiddwraig o Ddyffryn Nantlle, Lleucu Non, i greu rhywbeth sy’n ein caniatáu i rannu ysbryd Eryri gyda gweddill y byd”.
Dywedodd Catrin Glyn, Swyddog Partneriaeth Yr Wyddfa APCE:
“Hoffwn ddiolch yn arbennig i bawb sydd wedi cyfrannu tuag at y modiwlau cyffroes yma. Mae’n anghrydedd fod cymaint o awduron, beirdd ac artistiaid sydd wedi eu hysbrydoli gan Rinweddau Arbenngi Eryri, wedi bod mor awyddus i gydweithio â ni.”
Mae’r cynllun yn achredu cymhwyster efydd, arian ac aur i fusnesau yn ddibynnol ar faint o fodiwlau gaiff eu cwblhau.