Enwyd Llysgennad Cymru a Cyngor Sir Ddinbych fel un o’r enillwyr eleni yng Ngwobrau Twristiaeth Go North Wales a gynhaliwyd yn Venue Cymru yn Llandudno.
Ennillodd y Cynllun Llysgennad Twristiaeth y Cyngor y Wobr Go Skills am ei waith caled wrth helpu i ddarparu hyfforddiant ar-lein i bobl ynglŷn â nodweddion arbennig Sir Ddinbych.
Sir Ddinbych oedd y cyntaf i gyhoeddi cwrs ar-lein o’i fath yng Nghymru, ac mae’r hyfforddiant hygyrch am ddim wedi helpu i sicrhau bod bron i 350 o Lysgenhadon ledled y Sir erbyn hyn. Mae’r Llysgenhadon hyn yn cael cwrs cynhwysfawr sy’n cynnwys 12 modiwl, i’w helpu i ddod yn arbenigwyr ar eu Sir, gan ddyfnhau eu gwybodaeth am eu hardal leol.
Mae’r cynllun bellach wedi ei fabwysiadu gan nifer o gynghorau a sefydliadau eraill yng Nghymru ac wedi gweld llwyddiant enfawr gyda dros 2,600 o bobl yn cofrestru ar o leiaf un o’r cyrsiau.
Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen-James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:
“Mae gwaith caled y bobl yn y tîm hwn yn haeddu cael ei wobrwyo. Roedd y cynllun arloesol hwn y cyntaf o’i fath yng Nghymru ac mae wedi mynd o nerth i nerth ers ei gyhoeddi. Mae’n ffordd wych ac am ddim i bobl ddysgu am ein sir ac mae’n haeddu cael ei gydnabod.”