Mae cynllun ar-lein sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n darparu hyfforddiant a gwybodaeth i bobl am rinweddau arbennig ardaloedd o Gymru yn annog mwy o bobl i gymryd rhan a bod yn Llysgennad yn ystod Wythnos gyntaf Llysgenhadon Cymru rhwng 20 a 26 Tachwedd.
Mae Cynllun Llysgenhadon Cymru ar gael i bawb ac mae’n ffordd wych o ddysgu mwy am nodweddion unigryw pob lle. Cynigir cyfres o fodiwlau ar-lein ar amrywiaeth o themâu. Mae hyn yn cynnwys y Gymraeg, cymunedau, diwylliant, hanes, tirluniau, twristiaeth gynaliadwy, beicio a cherdded. Mae 3 lefel o wobrau – efydd, arian ac aur, yn dibynnu ar nifer y modiwlau sy’n cael eu cwblhau. Anfonir gwobrau gan gynnwys tystysgrifau a bathodynnau i bawb sy’n cwblhau’r lefelau.
Cynigir cyrsiau am ddim ym Mharciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd, Ynys Môn, Sir y Fflint, Wrecsam, Ceredigion a Sir Gâr. Bydd cwrs Llysgennad Diwylliannol Cymru gyfan yn cael eu lansio yn fuan. Mae Llysgenhadon yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer amrywiol gyrsiau i ddysgu mwy am Gymru a bod yn rhan o gymuned ehangach.
Nod Wythnos Llysgennad Cymru yw tynnu sylw at yr amrywiaeth eang o bobl sydd wedi elwa o ddod yn Llysgennad ac i annog eraill i ymuno. Bydd nifer o weithgareddau yn cael eu trefnu yn ystod yr wythnos, gan gynnwys digwyddiad ar-lein yn benodol ar gyfer Llysgenhadon – bydd siaradwyr o Croeso Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri yn trafod prosiect di-blastig Yr Wyddfa. Bydd Cymdeithas Tywyswyr Twristiaid Swyddogol Cymru hefyd yn bresennol ac yn esbonio sut i ddod yn Dywysydd Twristiaeth Cymru. Ymhlith y gweithgareddau eraill bydd noson o dan y sêr i ddysgu am yr enwau Cymraeg a’r fytholeg y tu ôl i’r cytserau; sesiwn ryngweithiol ar sut i ddefnyddio ffonau clyfar i greu cynnwys cyfryngau cymdeithasol a digwyddiad rhwydweithio cyflym i edrych sut y gall busnesau gydweithio.
Ar hyn o bryd mae dros 3,750 o bobl wedi cofrestru gyda dros 2,700 o bobl yn cyrraedd lefel efydd, nid yn unig o Gymru ond o bob rhan o’r DU a thu hwnt. Dyfarnwyd 6,243 o fathodynnau efydd, arian ac aur gyda thua dwy ran o dair o’r cyflawnwyr efydd yn mynd ymlaen i gyflawni aur. Mae 15-20% o ddefnyddwyr yn cofrestru ar fwy nag un cwrs.
Mae’r Llysgennad, Tony Vitti wedi cwblhau’r holl gyrsiau i lefel aur:
“Mae Cynllun Llysgenhadon Cymru yn hynod ddefnyddiol i mi yn fy ngwaith gan ei fod wedi rhoi cyfle i mi ddysgu am rannau o’r ardal nad oeddwn i wedi’u darganfod o’r blaen a gallu rhannu’r wybodaeth honno gyda’n cwsmeriaid. Mae’n amhrisiadwy pan fyddwn ni’n gwybod bod ardal benodol yn brysur a’n bod ni’n gallu awgrymu “perlau cudd” fel dewis amgen. Mae pobl wedi dod yn ôl atom i ddweud eu bod nhw wedi darganfod lle hyfryd oherwydd ein bod wedi gallu rhannu’r wybodaeth hon gyda nhw.
Fel rhywun sy’n hoffi crwydro, rydw i wedi elwa’n bersonol o bob un o’r cyrsiau. Maen nhw wedi mynd â fi i lefydd hardd ac atyniadau diddorol ac mae gen i wybodaeth well am y lleoedd hyn nag oedd gen i cyn dilyn y cyrsiau. Rydw i’n edrych ymlaen at fodiwlau newydd!”
Ychwanegodd y Llysgennad, Jen Brierley:
“Rwy’n teimlo’n ffodus iawn i fyw yng Nghymru. O fy nghartref gallaf ymweld â thraethau hyfryd, tirweddau mynyddig a bryniau godidog. Gallaf fynd allan a gwylio’r haul yn machlud o frig bryngaer hynafol neu fynd am dro i’r pwynt lle mae’r mynyddoedd yn cwrdd â’r môr gan fwynhau’r golygfeydd sy’n newid drwy’r amser mewn goleuadau gwahanol. Yr hyn yr wyf yn ei garu am fod yn Llysgennad Twristiaeth Cymru yw fy mod yn gallu ehangu fy ngwybodaeth am y lle hyfryd yr wyf yn ei alw’n gartref, a’i rannu gydag eraill ar fy llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel bod modd iddynt hwythau fwynhau’r lle arbennig hwn hefyd, wyneb yn wyneb, neu drwy fy lluniau.”
Mae Cynllun Llysgenhadon Cymru yn noddi Gwobr Sgiliau ym Maes Twristiaeth a Lletygarwch yng Ngwobrau Twristiaeth Go North Wales ar 23 Tachwedd. Enillodd y cynllun y wobr hon y llynedd.