Sgiliau | Gwasanaeth | Cynaliadwyedd | Diogelwch – Fe gewch chi bopeth rydych ei angen ar y cwrs hwn i’ch gyrfa ym maes twristiaeth a lletygarwch lewyrchu.
Croeso i’r cwrs Cyflwyniad i Dwristiaeth a Lletygarwch yng Nghonwy. Mae ar hyn o bryd yn cynnwys 4 modiwl unigol sy’n trafod y pynciau pwysig yma:
- Cyflogaeth ym Maes Twristiaeth a Lletygarwch
- Gwasanaeth i Gwsmeriaid
- Twristiaeth Gynaliadwy Werdd
- Diogelwch ar y Môr a’r Mynyddoedd
Mae pob modiwl yn cynnig cyflwyniad ichi i’r pwnc a fydd yn eich helpu i ddatblygu os ydych yn chwilio am yrfa newydd, neu newid gyrfa. Byddant yn eich helpu i ddeall pwysigrwydd gwasanaeth i gwsmeriaid, deall pam mae bod yn wyrdd yn bwysig ym maes twristiaeth a lletygarwch, a dysgu sut y gallwch helpu ymwelwyr (a chi eich hun) i gadw’n ddiogel wrth anturio yn yr awyr agored yn Sir Conwy.
Os hoffech chi ddarganfod mwy am bwnc penodol, mae adran adnoddau i chi gael golwg arni. Mae’n cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i darparu yn garedig gan brif sefydliadau ac adroddiadau/deunyddiau a ddefnyddiwyd yn ystod y broses ymchwil.
Gobeithio y gwnewch chi fwynhau gweithio drwy’r modiwlau yma sydd, yn ychwanegol at y testun a’r lluniau, yn cynnwys fideos byr a chyfraniadau a phrofiadau gan arbenigwyr go iawn. Mae cwis byr am y cynnwys ar ddiwedd pob modiwl.
Ar ôl i chi gwblhau’r modiwlau i gyd, gobeithio y byddwch chi’n teimlo wedi’ch ysbrydoli i ddechrau cynllunio eich gyrfa yn y sector twristiaeth a lletygarwch yng Nghonwy.
Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU
TIP: Cwblhewch y modiwlau yn yr iaith y dewisoch ar y dechrau. Ni allwn warantu y byddwch yn cadw eich sgôr os byddwch chi’n newid iaith.
Cyflogaeth yn y Sector Twristiaeth a Lletygarwch
- Cyflwyniad i faes Twristiaeth a Lletygarwch
- Ffeithiau a ffigyrau
- Pam dewis gyrfa ym maes Twristiaeth a Lletygarwch?
- Y swyddi a’r cyfleoedd gyrfa amrywiol yn Sir Conwy
- Pa sgiliau a chymwysterau sydd eu hangen arnoch
- Camu ymlaen yn eich gyrfa yn y Diwydiant Twristiaeth yng Nghonwy
- Sut i ganfod gyrfa ym maes Twristiaeth a Lletygarwch
Cyflwyniad i Wasanaethau i Gwsmeriaid
- Hanes Gwasanaethau i Gwsmeriaid
- Gosod y Llwyfan – Sut rydych yn gwneud i gwsmeriaid deimlo
- Mae’r Argraff Gyntaf yn Cyfrif
- Pŵer bod yn Gwrtais
- Diwylliant Cymru yn eich Busnes
- Profiad Gwasanaethau i Gwsmeriaid yng Nghonwy
- Profiad Cwsmeriaid Rhyngwladol
- Estyn Croeso Cynnes Cymreig i Ymwelwyr Rhyngwladol
Twristiaeth Gynaliadwy Werdd
- Cyflwyniad - Beth yw cynaliadwyedd?
- Twristiaeth Gyfrifol
- Twristiaeth Gynaliadwy o amgylch Sir Conwy
- Yn ôl at yr Elfennau Sylfaenol a Chefnogi Busnesau Lleol
- Dim ond un darn o sbwriel ydy o, pa niwed wnaiff hynny?
- Sut gellir gwobrwyo busnesau Twristiaeth a Lletygarwch am fod yn Wyrdd
- Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr - dewch i chwarae eich rhan!
Diogelwch Ymwelwyr yn y Mynyddoedd ac Ar y Môr
- Diogelwch yn y Mynyddoedd: Cyflwyniad i’r cynnydd a welir ym mhoblogrwydd crwydro yn yr awyr agored ac achub mynydd
- Sut i fod yn gyfrifol am eich hun
- Edrych am fyd natur ar y Mynyddoedd
- Diogelwch yn y Mynyddoedd - Beth i’w wneud os ewch chi i drafferthion
- Diogelwch ar y Môr: Cyflwyniad
- Sut i fod yn gyfrifol mewn Mannau Glas ac o'u cwmpas
- Diogelwch ar y Môr: Edrych am fyd natur
- Beth i’w wneud os ewch chi i drafferthion neu os gwelwch chi rywun mewn trafferthion ar hyd yr arfordir