Cwestiynau Cyffredin
Gobeithiwn y bydd y cwestiynau cyffredin hyn yn gallu ateb eich cwestiynau. Os nad yw’r cwestiynau cyffredin yn ateb eich cwestiwn, anfonwch e-bost atom i Business.Dev@flintshire.gov.uk a byddwn yn hapus i’ch helpu.
Pwy sy’n gallu bod yn Lysgennad Sir y Fflint?
- Os ydych chi’n gweithio yn y maes twristiaeth
- Os ydych chi’n gweithio ag ymwelwyr
- Os ydych chi’n byw yn yr ardal
- Os ydych chi’n astudio yn yr ardal
Mae croeso i unrhyw gymryd rhan a bod yn Llysgennad, os oes gennych ddiddordeb yn y cynllun, neu’n dymuno ehangu eich gwybodaeth ynghylch popeth sy’n gwneud Sir y Fflint yn lle arbennig.
Beth yw’r modiwlau hyfforddiant ar-lein?
Mae ystod o fodiwlau hyfforddiant ar-lein rhyngweithiol am ddim wedi’u creu i wella gwybodaeth am Sir y Fflint. Mae’r ymagwedd hon yn caniatáu i bawb ddysgu ar eu cyflymder a’u lleoliad dewisol mewn ffordd sy’n hwylus iddyn nhw..
Mae modiwlau wedi’u creu ar themâu gwahanol er mwyn rhoi hyblygrwydd i chi p’un a ydych eisiau cwblhau pob un o’r modiwlau neu’r rhai sy’n berthnasol i chi yn unig. Mae’r modiwlau yn cynnwys testunau a lluniau gan fod pawb yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol. Y 6 modiwl cychwynnol yw:
-
- Croeso i Sir y Fflint
- Cerdded a’r Awyr Agored Gwych
- Treftadaeth a Diwylliant Sir y Fflint
- Bwyd a Diod yn Sir y Fflint
- Trefi a Siopa yn Sir y Fflint
- Twristiaeth Gynaliadwy yn Sir y Fflint
A fydd y modiwlau yn canolbwyntio ar ardaloedd penodol yn Sir y Fflint??
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn cyllid ar gyfer y prosiect hwn drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Felly, bydd y modiwlau yn canolbwyntio ar Gefn Gwlad Sir y Fflint yn y cam cyntaf, fodd bynnag, bydd modiwlau ychwanegol sy’n canolbwyntio ar Arfordir Sir y Fflint yn cael eu hychwanegu maes o law.
A oes unrhyw un o’r modiwlau’n orfodol?
Oes – mae’n rhaid i chi gwblhau ‘Croeso i Sir y Fflint’ a ‘Cerdded a’r Awyr Agored Gwych’ a ‘Treftadaeth a Diwylliant Sir y Fflint’ cyn ymgymryd ag unrhyw fodiwlau eraill o’ch dewis chi.
A oes lefelau gwahanol i’r hyfforddiant?
Oes!
- Efydd – Cwblhau 3 modiwl
- Arian – Cwblhau 6 modiwl
- Aur – Cwblhau 9+ o fodiwlau
Sawl modiwl ar-lein sydd angen i mi eu cwblhau i fod yn Lysgennad Twristiaeth?
Er mwyn bod yn Lysgennad Twristiaeth (Efydd), rhaid i chi gwblhau 3 modiwl gorfodol.
A fydd y modiwlau’n cael eu hasesu?
Bydd, cynhelir profion syml i wirio eich cynnydd trwy gydol y modiwlau. Y sgôr ‘pasio’ yw 80%. Bydd cyfleoedd i ail-sefyll unrhyw un o’r modiwlau.
Faint o amser fydd yn ei gymryd i gwblhau bob modiwl?
Ar gyfartaledd, bydd pob modiwl yn cymryd tua 30 munud i’w cwblhau (fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rhai yn cymryd ychydig yn hirach/llai).
A yw’r modiwlau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg?
Mae pob un o’r modiwlau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Sicrhewch eich bod yn cwblhau’r cwrs cyfan yn eich dewis iaith, oherwydd ni allwn roi sicrwydd y bydd eich sgoriau yn cael eu cadw os ydych yn newid yr iaith.
A oes unrhyw ddeunydd hyrwyddo ar gael am gwblhau’r modiwlau / bod yn Llysgennad Twristiaeth?
Oes, mae’r canlynol ar gael yn rhad ac am ddim –
- Tystysgrifau
- Brand Llysgennad Twristiaeth i ddefnyddio ar eich deunyddiau marchnata
A oes yna unrhyw gyfle i fynd ar deithiau dysgu / hyfforddiant wyneb yn wyneb i wella dysgu ar-lein?
Oes – trefnir hyfforddiant wyneb yn wyneb a theithiau dysgu i ategu at y dysgu ar-lein ac i ddarparu cyfleoedd i bawb rwydweithio â Llysgenhadon eraill, rhannu arfer gorau a chyfrannu at gynllunio ar gyfer twristiaeth y dyfodol.
A fydd y modiwlau’n cael eu diweddaru neu a fydd modiwlau newydd yn cael eu cyflwyno?
Bydd – caiff modiwlau eu diweddaru yn ôl yr angen. Caiff modiwlau newydd eu cyflwyno yn ôl yr angen. Bydd y system yn hysbysu defnyddwyr pan fydd modiwl yn cael ei ddiweddaru neu os oes unrhyw gynnwys newydd wedi’i uwchlwytho.
A fydd yna adnoddau ar-lein eraill ar gael?
Bydd – mae gan y wefan adran ‘Adnoddau’ lle y gallwch ddod o hyd i ystod o wybodaeth a dolenni defnyddiol i ategu at y modiwlau.