Cwestiynau Cyffredin
Gobeithiwn y bydd y cwestiynau cyffredin hyn yn gallu ateb eich cwestiynau. Os nad yw’r cwestiynau cyffredin yn ateb eich cwestiwn, anfonwch e-bost atom i Cymraeg2050@llyw.cymru a byddwn yn hapus i’ch helpu.
Pwy sy’n gallu bod yn Llysgennad Diwylliannol?
Mae croeso i unrhyw un fod yn Llysgennad Diwylliannol. Os oes gen ti ddiddordeb dysgu mwy am ddiwylliant Cymru, dyma’r cwrs i ti!
Beth yw’r modiwlau hyfforddiant ar-lein?
Mae sawl modiwl yn rhan o’r cwrs, ac mae pob un ar gael ar-lein, yn rhad ac am ddim. Mae croeso i ti gwblhau’r modiwlau yma ar amser ac mewn modd sy’n gyfleus i ti. Gelli wneud y modiwlau yn ddyddiol, yn wythnosol, yn fisol neu gelli wneud y cwbl mewn un diwrnod os yw hynny yn well gen ti.
Pam mai dim ond y lefel Efydd sydd ar gael ar hyn o’r bryd?
Mae modd i bawb gwblhau lefel Efydd y cwrs ar hyn o bryd. Mi fydd lefelau Arian ac Aur yn cael eu lansio maes o law.
Oes rhaid cwblhau pob modiwl?
Mae’n rhaid cwblhau’r modiwlau isod, yn y drefn yma, i fod yn Llysgennad Diwylliannol lefel Efydd:
Modiwl 1: O ble y daeth y Gymraeg, a beth yw ei hoedran?
- Iaith Fyw
- Sut wnaeth y Gymraeg ddatblygu?
- A yw’r Cymry’n Geltiaid?
- Ai’r Gymraeg yw iaith hynaf Ewrop?
Modiwl 2: Beth fydd ymwelwyr a newydd-ddyfodiaid i Gymru yn ei wybod am y Gymraeg?
- Gweld a chlywed y Gymraeg
- Deall rôl y Gymraeg
- Rôl y Llysgenhadon
Modiwl 3: Addysg cyfrwng Cymraeg
- Dysgu drwy’r Gymraeg
- ‘Welsh Not’
- Ond beth am heddiw?
Sawl lefel sydd yn y cwrs Llysgenhadon Diwylliannol?
Mi fydd tair lefel yn y cwrs Llysgenhadon Diwylliannol, sef Efydd, Arian ac Aur, ond dim ond lefel Efydd sydd ar gael ar hyn o bryd. Mi fydd lefelau Arian ac Aur yn cael eu lansio maes o law.
Ar ôl i ti orffen y lefel Efydd, byddi di’n derbyn tystysgrif a bathodyn.
Sawl modiwl sydd angen i mi gwblhau i fod yn Llysgennad Diwylliannol?
Mae tua thri modiwl ym mhob lefel (Efydd, Arian ac Aur). Mae’n rhaid i ti orffen pob modiwl o fewn y lefel er mwyn bod yn Llysgennad Diwylliannol.
Oes prawf ar ddiwedd pob modiwl?
Oes, mae cyfres o gwestiynau ar ddiwedd pob modiwl. Mae angen i ti gael sgôr o 80% cyn symud ymlaen i’r modiwl nesaf. Ond cofia, os nad wyt ti’n cael 80%, mae croeso i ti drio eto.
Faint o amser mae pob modiwl yn ei gymryd?
Mae pob modiwl yn cymryd tua 20 munud i’w cwblhau, ond mae croeso i ti gymryd faint bynnag o amser ac wyt ti ei angen. Does dim rhaid i ti gwblhau’r modiwlau o fewn amser penodol.
Ydi’r modiwlau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg?
Ydyn, mae’r modiwlau i gyd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Fe gei di ddewis ym mha iaith i wneud y cwrs. Mae’n well peidio newid iaith hanner ffordd trwy’r cwrs, rhag ofn i ti golli dy le.
Oes adnoddau ychwanegol ar gael?
Oes. Mae llawer o adnoddau ar gael yn yr adran ‘Adnoddau’ ar y wefan.
Oes teithiau dysgu neu hyfforddiant wyneb yn wyneb yn y cwrs?
Ar hyn o bryd, cwrs ar-lein yw hwn, ond os bydd gyda ti syniadau ar sut i’w wella mae croeso i ti eu rhannu gyda ni! Cysyllta gyda ni ar Cymraeg2050@llyw.cymru.
Fydd y modiwlau yn cael eu diweddaru neu a fydd modiwlau newydd yn cael eu cyflwyno?
Mi fydd lefelau Arian ac Aur y cwrs yn cael eu lansio’n fuan. Os wyt ti wedi cofrestru gyda’r cwrs, byddwn ni’n anfon neges atat pan fydd y modiwlau newydd yn barod.