Cwestiynau Cyffredin
Gobeithiwn y bydd y cwestiynau cyffredin hyn yn gallu ateb eich cwestiynau. Os nad yw’r cwestiynau cyffredin yn ateb eich cwestiwn, anfonwch e-bost atom i llysgennadtwristiaeth@conwy.gov.uk a byddwn yn hapus i’ch helpu.
Pwy sy’n gallu bod yn Llysgennad Twristiaeth?
- Os ydych chi’n gweithio yn y maes twristiaeth
- Os ydych chi’n gweithio ag ymwelwyr
- Os ydych chi’n byw yn yr ardal
- Os ydych chi’n astudio yn yr ardal
Ond, mae croeso i unrhyw un â diddordeb yn y cynllun neu sydd yn dymuno ehangu eu gwybodaeth ar bopeth sydd yn gwneud Conwy yn le mor arbennig gymryd rhan a dod yn Llysgennad.
Beth yw’r modiwlau hyfforddiant ar-lein?
Mae ystod o fodiwlau hyfforddiant ar-lein rhyngweithiol am ddim wedi’u creu i wella gwybodaeth am Sir Conwy. Mae’r ymagwedd hon yn caniatáu i bawb ddysgu ar eu cyflymder a’u lleoliad dewisol mewn ffordd sy’n hwylus iddyn nhw.
Mae modiwlau wedi’u creu ar themâu gwahanol er mwyn rhoi hyblygrwydd i chi p’un a ydych eisiau cwblhau pob un o’r modiwlau neu’r rhai sy’n berthnasol i chi yn unig. Mae’r modiwlau yn cynnwys testunau, lluniau a ffilmiau.
Y 6 modiwl cychwynnol yw:
-
- Croeso i Sir Conwy
- Trefi a Phentrefi yn Sir Conwy
- Y Gymraeg a Diwylliant Cymru
- Hanes Sir Conwy
- Safleoedd Treftadaeth yn Sir Conwy
- Cerdded yn Sir Conwy
Y 6 modiwl nesaf sy’n cael eu datblygu yw:
- Beicio yn Sir Conwy
- Antur a Gweithgareddau yn Sir Conwy
- Y Celfyddydau yn Sir Conwy
- Bwyd a Diod yn Sir Conwy
- Arfordir Sir Conwy
- Hamdden yn Sir Conwy
Bydd y modiwlau hyn yn cael eu rhyddhau o gannol mis Mai tan ddiwedd Mehefin 2021.
A fydd y modiwlau yn canolbwyntio ar bynciau penodol?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) wedi derbyn cyllid ar gyfer y prosiect hwn drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru, ac mae cyfraniad gan CBSC wedi sicrhau bod Sir Conwy gyfan wedi’i chynnwys yn y modiwlau.
A oes unrhyw un o’r modiwlau yn orfodol?
Oes, mae’n rhaid i chi gwblhau ‘Croeso i Sir Conwy’ a ‘Threfi a Phentrefi Sir Conwy’ cyn ymgymryd ag unrhyw fodiwlau eraill o’ch dewis chi.
A oes lefelau gwahanol i’r hyfforddiant?
Oes, tri lefel.
- Efydd – Cwblhau 3 modiwl
- Arian – Cwblhau 6 modiwl
- Aur – Cwblhau 9+ o fodiwlau
Sawl modiwl sydd angen i mi gwblhau i fod yn Llysgennad Twristiaeth?
Er mwyn bod yn Llysgennad Twristiaeth (Efydd), mae’n rhaid i chi gwblhau’r tri modiwl (2 orfodol ac 1 o’ch dewis chi).
A fydd y modiwlau yn cael eu hasesu?
Bydd, cynhelir profion syml i wirio eich cynnydd trwy gydol y modiwlau. Y sgôr ‘pasio’ yw 80%. Bydd cyfleoedd i ail-sefyll unrhyw un o’r modiwlau.
Faint o amser fydd yn ei gymryd i gwblhau pob modiwl?
Ar gyfartaledd, bydd pob modiwl yn cymryd tua 30 munud i’w cwblhau (fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rhai yn cymryd ychydig yn hirach/llai).
A yw’r modiwlau ar gael yn Gymraeg a Saesneg?
Mae pob un o’r modiwlau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Sicrhewch eich bod yn cwblhau’r cwrs cyfan yn yr iaith o’ch dewis chi, gan nad oes sicrhad o gadw eich sgôr os y gwnewch gyfnewid iaith.
A fydd yna unrhyw ddeunyddiau hyrwyddol ar gael am gwblhau’r modiwlau / dod yn Llysgennad Twristiaeth Conwy?
Bydd, Mae’r canlynol ar gael am ddim:
- Tystysgrifau
- Bathodynnau
- Sticeri ar gyfer drysau a ffenestri
- Brandio Llysgennad Twristiaeth Conwy ar gael ar gais, i’w ddefnyddio yn eich deunyddiau marchnata
A oes yna unrhyw gyfle i fynd ar deithiau dysgu / hyfforddiant wyneb yn wyneb i ehangu’r dysgu ar-lein?
Oes, trefnir hyfforddiant wyneb yn wyneb a theithiau dysgu i ategu at y dysgu ar-lein ac i ddarparu cyfleoedd i bawb rwydweithio â Llysgenhadon eraill, rhannu arfer dda a chyfrannu at gynllunio ar gyfer twristiaeth y dyfodol.
A fydd y modiwlau yn cael eu diweddaru neu a fydd modiwlau newydd yn cael eu cyflwyno?
Bydd, caiff modiwlau eu diweddaru yn ôl yr angen. Caiff modiwlau newydd eu cyflwyno yn ôl yr angen. Bydd y system yn hysbysu defnyddwyr pan fydd modiwl yn cael ei ddiweddaru neu os oes unrhyw gynnwys newydd wedi’i uwchlwytho.
A fydd yna adnoddau ar-lein ar gael?
Bydd, mae gan y wefan adran ‘Adnoddau’ lle y gallwch ddod o hyd i ystod o wybodaeth a dolenni defnyddiol i ategu at y modiwlau.