Cwrs Llysgennad
Twristiaeth Conwy
Darganfyddwch Conwy – lle mae Eryri yn cwrdd â’r môr
Cwrs Llysgennad Twristiaeth Conwy
Darganfyddwch Conwy – lle mae Eryri yn cwrdd â’r môr
Beth yw’r
Cynllun Llysgennad?
Mae’r cwrs yma’n darparu cyfle i hyfforddi ar-lein er mwyn gwella eich gwybodaeth am y cynnig twristiaeth ar gyfer Sir Conwy gyfan; tirweddau anhygoel, anturiaethau awyr agored, diwylliant bywiog a threftadaeth gyfoethog.
Pan fyddwch chi’n Lysgennad Twristiaeth Conwy byddwch yn chwarae rôl bwysig yn cyfoethogi profiad cyffredinol ymwelwyr..
Eisiau gwybod mwy am Conwy?
Dewch i fod yn Llysgennad
Profiadau llysgennad
Eisiau gwybod mwy am Conwy?
Dewch i fod yn Llysgennad
Profiadau llysgennad
“Rydw i wir wedi mwynhau gwneud y cwrs yma. Rydw i wedi dysgu llwyth am y lle
rydw i’n byw ynddo fo, ac mae gen i restr o lefydd dwi’n edrych ymlaen i fynd iddynt.”
Caryl Williams
Gwylio. Gwrando. Dysgu.
Dewch yn Llysgennad Twristiaeth Conwy
Gellir cyflawni’r Cynllun Llysgennad ar-lein drwy ddilyn ychydig o fodiwlau syml. Cewch ddysgu ar gyflymder sy’n addas i chi, boed hynny yn eich cartref neu yn eich lleoliad gwaith. Darllenwch bob modiwl, gwyliwch glipiau fideo, gwrandewch ar arbenigwyr lleol, ac yna atebwch gwis byr am y cynnwys. Byddwch yn Llysgennad Twristiaeth i Gonwy mewn dim.
Gwylio. Gwrando. Dysgu.
Dewch yn Llysgennad Twristiaeth Conwy
Gellir cyflawni’r Cynllun Llysgennad ar-lein drwy ddilyn ychydig o fodiwlau syml. Cewch ddysgu ar gyflymder sy’n addas i chi, boed hynny yn eich cartref neu yn eich lleoliad gwaith. Darllenwch bob modiwl, gwyliwch glipiau fideo, gwrandewch ar arbenigwyr lleol, ac yna atebwch gwis byr am y cynnwys. Byddwch yn Llysgennad Twristiaeth i Gonwy mewn dim.
Beth yw'r manteision o ddod yn Llysgennad?
I chi
Gwella eich gwybodaeth leol am yr ardal
Darparu profiad gwell fyth i ymwelwyr
Rhoi hwb i'ch hyder er mwyn rhannu gwybodaeth am Gonwy gydag eraill
Meithrin sgiliau newydd i'w rhoi ar eich CV
Cyfle i ddathlu a theimlo balchder ac angerdd am ein hardal hardd
Rhannu syniadau ac arfer dda gyda phobl o’r un fryd
Bod yn rhan o grŵp sydd â’r un diddordeb
I’ch busnes
Cynnig rhaglen gynefino staff sydd wedi’i pharatoi am ddim
Cyfleoedd Cysylltiadau Cyhoeddus
Cymorth gyda chymhelliant staff a sut i’w cadw
Helpu i wella ffyddlondeb a nifer ymwelwyr sy’n galw eto
Helpu i roi hwb i economi Sir Conwy
Darparu profiadau unigryw a dilys i ymwelwyr
Helpu i gynyddu nifer o ymwelwyr, yr hyd y maent yn aros a’u gwariant
Ffordd syml ac am ddim i ychwanegu gwerth at eich busnes
Helpu i ddatblygu a chynnal ein cyrchfan
Mynediad at ystod o adnoddau ar-lein gwerthfawr am y gyrchfan y gallwch eu rhannu gyda’ch ymwelwyr
Diweddaraf o’r blog
Cwrs wedi'i ariannu gan