Cwrs Llysgennad
Twristiaeth Sir Gâr
Darganfyddwch nodweddion unigryw Sir Gâr
Cwrs Llysgennad Twristiaeth Sir Gâr
Discover the unique qualities of Carmarthenshire

Beth yw'r
Cynllun Llysgenhadon?
Mae’r cynllun hwn yn rhoi cyfle hyfforddi ar-lein i wella’ch gwybodaeth am yr hyn y mae pob rhan o Sir Gâr yn ei gynnig i dwristiaid; ei thirweddau trawiadol, ei hanturiaethau awyr agored, ei diwylliant bywiog a’i threftadaeth gyfoethog.
Pan fyddwch yn dod yn Llysgennad Twristiaeth Sir Gâr byddwch yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gyfoethogi profiad cyffredinol ymwelwyr.
“Mor falch o fod wedi cyflawni fy Ngwobr Efydd Llysgennad Sir Gaerfyrddin. Diolch yn fawr i Gyngor Sir Caerfyrddin am ddarparu cwrs mor addysgiadol a diddorol. Byddwn yn argymell i bawb sy’n frwd dros Dwristiaeth a Sir Gaerfyrddin dderbyn yr her.”
Gwyliwch. Gwrandewch. Dysgwch.
Byddwch yn Llysgennad Twristiaeth Sir Gâr
Mae modd cyflawni’r Cynllun Llysgenhadon ar-lein, a hynny dim ond drwy ddilyn ychydig o fodiwlau hawdd. Dysgwch yn ôl eich cyflymder eich hun, gartref neu yn eich gweithle. Darllenwch bob modiwl, gwyliwch glipiau fideo, gwrandewch ar arbenigwyr lleol, ac yna atebwch gwis byr ar y cynnwys. Mewn dim o dro byddwch yn Llysgennad Twristiaeth i Sir Gâr.
Gwyliwch. Gwrandewch. Dysgwch.
Byddwch yn Llysgennad Twristiaeth Sir Gâr
TMae modd cyflawni’r Cynllun Llysgenhadon ar-lein, a hynny dim ond drwy ddilyn ychydig o fodiwlau hawdd. Dysgwch yn ôl eich cyflymder eich hun, gartref neu yn eich gweithle. Darllenwch bob modiwl, gwyliwch glipiau fideo, gwrandewch ar arbenigwyr lleol, ac yna atebwch gwis byr ar y cynnwys. Mewn dim o dro byddwch yn Llysgennad Twristiaeth i Sir Gâr.
Beth yw manteision dod yn Llysgennad Twristiaeth?
I Chi
Dyfnhau eich gwybodaeth leol am yr ardal
Darparu profiad gwell fyth i gwsmeriaid
Rhoi hwb i'ch hyder i rannu gwybodaeth am Sir Gâr gydag eraill
Dysgu sgiliau newydd i'w hychwanegu at eich CV
Cyfle i ddathlu ac ymfalchïo yn ein hardal hardd
Rhannu syniadau ac arferion gorau gyda phobl o'r un meddylfryd
Bod yn rhan o grŵp diddordeb cyffredin
I'ch Busnes
Mae'n cynnig rhaglen sefydlu staff barod yn rhad ac am ddim
Cyfleoedd Cysylltiadau Cyhoeddus
Helpu i gymell a chadw staff
Helpu i gynyddu teyrngarwch ac ymweliadau mynych
Helpu i hybu economi Sir Gâr
Darparu profiad unigryw a go iawn i ymwelwyr
Helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr, am faint maen nhw'n aros a'u gwariant
Ffordd syml ac am ddim o ychwanegu gwerth at eich busnes
Helpu i ddatblygu a chynnal ein cyrchfan
Mynediad at ystod o adnoddau ar-lein gwerthfawr am y gyrchfan y gallwch eu rhannu gyda'ch ymwelwyr
Diweddaraf o’r blog
Cwrs wedi'i ariannu gan

This project has received funding through the Welsh Government Rural Communities – Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government.