Cwestiynau Cyffredin
Rydym yn gobeithio y bydd atebion y cwestiynau cyffredin hyn yn ateb eich cwestiynau. Os nad ydynt, anfonwch e-bost atom ar twristiaethtourism@ynysmon.llyw.cymru a byddwn y hapus i’ch helpu.
Pwy all ddod yn Llysgennad?
- Os ydych yn gweithio ym maes twristiaeth
- Os ydych yn gweithio ag ymwelwyr
- Os ydych yn byw yn yr ardal
- Os ydych yn astudio yn yr ardal
Mae croeso i unrhyw gymryd rhan a bod yn Llysgennad, os oes gennych ddiddordeb yn y cynllun, neu’n dymuno ehangu eich gwybodaeth ynghylch popeth sy’n gwneud Ynys Môn yn lle arbennig.
Pwy sydd y tu ôl i’r Cynllun Llysgenhadon?
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi gofyn am gymorth Tywyswyr Twristiaid Swyddogol Cymru, sydd wedi’u lleoli ar yr ynys ac sy’n gweithio yma, i ysgrifennu’r cynnwys. Trwy eu gwaith, maent yn mynd ati’n rheolaidd i roi gwybodaeth i ymwelwyr am ein hynys a’i hanesion. Ariannwyd hyn gan Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU.
Beth mae’r modiwlau hyfforddi ar-lein yn eu cynnwys?
Rydym yn llunio amrywiaeth o fodiwlau hyfforddiant rhyngweithiol ar-lein i gynyddu’r wybodaeth am Ynys Môn. Mae’r modiwlau’n canolbwyntio ar wahanol themâu, ac yn gyfuniad o destun, delweddau a ffilmiau.
Y 3 modiwl cyntaf yw:
- Ein Hynys
- Ein Gorffennol
- Ein Hiaith a’n Diwylliant
Ychwanegir rhagor o fodiwlau yn y misoedd i ddod, felly cadwch olwg am y canlynol:
- Bwyd a Diod
- Pethau i’w Gweld
- Pethau i’w Gwneud
- Mynd o Le i Le
- Lleoedd Arbennig
- Caergybi ac ymweliadau Llongau Mordeithio
Oes rhaid i mi wneud bob un o’r modiwlau?
Nag oes. Mae’r 3 modiwl cyntaf yn orfodol, ac mae angen i chi eu cwblhau i gyflawni’r dystysgrif Llysgennad Lefel Efydd.
Gallwch wedyn astudio unrhyw fodiwlau o’ch dewis i gyflawni’r Lefel Arian ac wedyn Aur.
Felly, i grynhoi
- Efydd – Cwblhau 3 modiwl gorfodol
- Arian – Cwblhau 3 modiwl arall o’ch dewis
- Aur – Cwblhau’r 3 modiwl sy’n weddill
Nid yw’r lefelau’n mynd yn anoddach, ond maent yn trafod rhai testunau pwysig o safbwynt Ynys Môn yn fanylach.
Faint o fodiwlau ar-lein y mae angen i mi eu cwblhau i fod yn Llysgennad Ynys Môn?
I fod yn Llysgennad Ynys Môn (Efydd), rhaid i chi gwblhau 3 modiwl gorfodol. Gallwch wedyn ddewis pa fodiwlau i’w hastudio nesaf i gyflawni’r lefelau uwch.
Fydd y modiwlau’n cael eu hasesu?
Bydd, bydd profion sylfaenol i gadarnhau’r hyn a ddysgwyd gennych yn digwydd trwy’r modiwlau cyfan. Y sgôr pasio yw 80%. Cewch gyfleoedd i ail-wneud unrhyw un o’r modiwlau.
Faint o amser fydd ei angen i gwblhau pob modiwl?
Ar gyfartaledd, bydd pob modiwl yn cymryd tua 30 munud i’w gwblhau (er y gall ambell un gymryd ychydig yn llai/mwy o amser).
Ydy’r modiwlau ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg?
Bydd pob modiwl ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Sicrhewch eich bod yn cwblhau’r cwrs cyfan yn eich dewis iaith, gan na allwn warantu y byddwch yn cadw eich sgôr os byddwch chi’n newid iaith.
Mae ein modiwl Iaith a Diwylliant (sef un o’n modiwlau gorfodol y mae ei angen ar gyfer y Lefel Efydd) hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y defnydd o’r Gymraeg a’i phwysigrwydd o fewn ein cymuned ddwyieithog.
A fydd fy nghyflawniadau’n cael eu cydnabod ac unrhyw frandio ar gael i’w ddefnyddio o fewn fy musnes?
Bydd, mae’r canlynol ar gael am ddim –
- Tystysgrifau
- Brand y Llysgennad Twristiaeth i’w ddefnyddio o fewn eich deunydd marchnata
A fydd y modiwlau’n cael eu diweddaru a rhai newydd yn cael eu cyflwyno?
Bydd – caiff y modiwlau eu diweddaru fel y bo angen. Efallai y bydd modiwlau newydd yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol. Byddwn yn hysbysu defnyddwyr pan fydd modiwl wedi’i ddiweddaru ac os cafodd unrhyw gynnwys newydd ei uwchlwytho.
Sut wnewch chi fy hysbysu?
Byddwch yn cofrestru gyda chyfeiriad e-bost i ni ei ddefnyddio gyda’ch caniatâd.
A fydd unrhyw adnoddau ar-lein eraill ar gael?
Bydd – mae gan y wefan adran ‘Adnoddau’ lle galwch ddod o hyd i bob math o wybodaeth a dolenni ar gyfer cwblhau’r modiwlau.