Mewn ychydig o gamau yn unig, gallech fod ar eich ffordd i fod yn Llysgennad Cymru.
1. Cofrestru
Mae’n rhaid ichi Gofrestru ar y wefan cyn gwneud y cwrs.
Cofiwch mai eich cyfeiriad e-bost fydd eich Enw Defnyddiwr.
Wedi cofrestru fe gewch chi neges e-bost gyda’ a dolen gyswllt i’r dudalen fewngofnodi.
Fe welwch chi’r botymau Cofrestru a Mewngofnodi ar y dde ar frig pob tudalen.
2. Gwneud y Cwrs
I ddod yn Llysgennad ar unrhyw un o’r cyrsiau, bydd yn rhaid i chi gyrraedd y dystysgrif lefel Efydd drwy basio’r nifer gofynnol o fodiwlau. Gallai rhai modiwlau fod yn orfodol.
Mae pob modiwl yn gymysgedd o destun, fideos a lluniau gyda chwis ar y diwedd.
*Efallai y bydd gan rai modiwlau hirach fwy nag un cwis. Ceir y rhain yn y modiwl wrth i chi weithio drwyddo. Gwnewch bob cwis wrth ichi fynd yn eich blaen drwy’r modiwl, a chofiwch roi clic ar ‘Marcio wedi’i Gwblhau’ ar y dudalen sy’n rhoi gorolwg o’r modiwl.
Pan fyddwch wedi llwyddo i basio’r modiwlau gorfodol, gallwch ddewis eich modiwlau sy’n weddill.
Pan fyddwch chi wedi pasio’r modiwlau gofynnol bydd ffenestr yn ymddangos i ddweud eich bod wedi cael bathodyn Efydd. Bydd tîm Llysgennad Cymru yn cael gwybod hefyd er mwyn iddynt anfon y Pecyn Croeso i Lysgenhadon atoch, yn ogystal â chopi PDF o’r dystysgrif Efydd swyddogol y gallwch ei argraffu a’i arddangos yn eich lle busnes, yn ogystal ag eicon y gallwch ei ddefnyddio ar gyfryngau cymdeithasol.
Bydd arnoch angen pasio gymryd gweddill y modiwlau gofynnol o’ch dewis cyn cael y bathodyn Arian a chael PDF o’r dystysgrif Arian.
I fod yn Llysgennad Aur wedi hynny, bydd yn rhaid i chi gymryd gweddill y modiwlau gofynnol o’ch dewis.
3. Gwneud y Cwisiau
Wedi pasio’r unrhyw fodiwlau gorfodol fe fyddwch chi’n medru gwneud y cwisiau sy’n weddill.
Mae’r cwestiynau’n dod ar sawl ffurf, gan gynnwys
- un dewis
- gwir neu anwir
- ticio mwy nag un ateb
- llusgo a gollwng yr atebion yn y drefn iawn (clicio a dal botwm y llygoden ar yr atebion a’u symud yn ôl eu trefn)
- paru atebion â’i gilydd (clicio a dal botwm y llygoden ar yr atebion a’u llusgo wrth ymyl y rhai sy’n cyfateb).
Mae’n rhaid ichi gael sgôr o 80% o leiaf er mwyn pasio’r cwis.
Pan gewch chi eich canlyniadau, gallwch glicio a ‘Gweld y Cwestiynau’ i gael gwybod pa rai a gawsoch chi’n iawn.
*Gwnewch nodyn o’ch atebion cywir ac anghywir er mwyn ichi wybod y tro nesaf y gwnewch chi’r cwis.
Gwyrdd yw’r atebion cywir yn wyrdd a choch yw’r rhai anghywir (neu rai a roddwyd yn y lle anghywir).
Ychydig o bethau i’w cadw mewn cof
- Mae’n rhaid chwarae pob fideo HYD Y DIWEDD cyn ichi fedru mynd yn eich blaen.
- TI ddod o hyd i’r Cwis ymhob modiwl sgroliwch i lawr i waelod y dudalen sy’n rhoi gorolwg o’r modiwl a chlicio ar y ddolen gyswllt. (Ac eithrio lle mae’r cwisiau’n digwydd o fewn y modiwl.)
- Mae’n rhaid i chi basio unrhyw fodiwlau gorfodol cyn y cwisiau cyn medru gwneud y cwisiau ar gyfer y modiwlau eraill.
- Os nad ydych chi’n pasio’r cwis y tro cyntaf, cliciwch ar ‘Gweld yr Atebion’ i wneud nodyn o’ch atebion anghywir er mwyn cael gwell sgôr y tro nesaf.
- • Peidiwch â newid yr iaith ar ôl dechrau’r cwrs. Efallai y bydd eich cynnydd yn diflannu os byddwch chi’n newid iaith.
TIP: Cadwch lygad am y Bocs Cynghorion glas a gwyrdd a fydd yn eich helpu drwy amlygu agweddau pwysig ar y cwrs.