Dewch i ddarganfod teithiau newydd sbon i’w mwynhau yr haf yma
Mae llwybrau newydd sbon i dwristiaid wedi cael eu lansio yn y gogledd-ddwyrain yn ystod Wythnos Twristiaeth Cymru, sy’n dechrau ar 11 Mai 2019. Mae’r llwybrau ar ffurf mapiau digidol, sydd ar gael i’w llwytho i lawr AM DDIM o http://www.northeastwales.wales/eich-blwyddyn-y-mor/ffordd-y-gogledd/?lang=cy
Mae’r mapiau’n edrych ar leoliadau gwahanol yn y gogledd-ddwyrain – o’r Rhyl i Benarlâg. Bydd defnyddwyr y map yn ymweld â mannau poblogaidd i dwristiaid megis Traeth Talacre, Castell y Waun a Charchar Rhuthun. Nid yw’r llwybrau newydd wedi’u cyfyngu i’w sir yn unig, sy’n golygu y gall defnyddwyr gyfuno eu taith gyda lleoliadau cyfagos yng Nghonwy.
Mae’r llwybrau newydd yn y gogledd-ddwyrain yn rhan o gasgliad newydd sbon o saith map, sy’n tynnu sylw at rai o’r lleoliadau twristaidd allweddol sydd i’w gweld yn y gogledd. Mae’r mapiau wedi’u dylunio a’u cynhyrchu gan y pedair Partneriaeth Rheoli Cyrchfannau yn y gogledd wrth iddyn nhw gydweithio am y tro cyntaf (sef Ynys Môn, Gwynedd, Conwy a’r gogledd-ddwyrain – sef Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam). Mae’r mapiau’n cydgysylltu â’r ffordd 75 milltir o hyd, Ffordd y Gogledd – un o’r tri llwybr twristiaeth cenedlaethol a lansiwyd gan Croeso Cymru o dan frand Ffordd Cymru.
Gydag amrywiaeth eang o drysorau cudd yn y gogledd, mae pob map wedi’i seilio ar thema gyda’i lwybr unigryw ei hun, sy’n ymestyn o Ynys Môn i’r gogledd-ddwyrain. Ar yr agenda, gall defnyddwyr ddilyn taith arfordir Conwy, cylchdaith forwrol gogledd Ynys Môn, dyffrynnoedd llechi Gwynedd a thirnodau enwog y gogledd-ddwyrain. Mae’r llwybrau gwyddoniaeth a threftadaeth a’r llwybr gweithgaredd teulu yn mynd â chi ar daith i weld rhai o brif gyrchfannau’r gogledd-ddwyrain, tra bod y gylchdaith antur awyr agored a threftadaeth yn dangos y gorau o’r hyn sydd gan y gogledd i’w gynnig – ardal sy’n enwog am ei golygfeydd godidog a’i gweithgareddau antur llawn adrenalin.
Meddai Ian Lebbon, Cadeirydd Partneriaeth Rheoli Cyrchfannau Sir Ddinbych,
“Rydw i wrth fy modd bod y gogledd-ddwyrain yn rhan bwysig o’r prosiect Cymru-gyfan yma. Bydd y llwybrau newydd yn rhoi cyfle i ymwelwyr fwynhau ein harfordir, ein treftadaeth, ein trefi gwledig, ein tirweddau a’r amrywiaeth eang o atyniadau sydd gan y rhanbarth i’w cynnig i ymwelwyr. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn annog busnesau i ddatblygu partneriaethau cryfach, yn rhoi hwb i’r economi leol ac yn cynnig cyfleoedd gwaith drwy gydol y flwyddyn.”
Mae’r mapiau newydd wedi bod yn ymdrech gymunedol, wrth i fusnesau gael eu gwahodd i weithdai i drafod eu syniadau ar gyfer llwybrau newydd i dwristiaid i helpu i hyrwyddo’r rhanbarth a darparu teithiau cylchol a theithiau gwahanol oddi ar Ffordd y Gogledd.
Mae’r mapiau’n rhan o ymgyrch dwristiaeth ehangach a lansiwyd gan awdurdodau lleol y gogledd, sydd – ynghyd â chyllid gan Croeso Cymru a’r Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol – wedi ymdrechu i roi hwb i ffigurau twristiaeth yn ystod misoedd y gaeaf, sydd wedi bod yn is na’r gobaith yn y gorffennol.
Bu’r ymgyrch yn llwyddiannus ymysg busnesau lleol, gyda digon o ymateb cadarnhaol a pharodrwydd i ddefnyddio’r hashnod #DarganfodGogleddCymru ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol. Mae’r hashnod poblogaidd yn dal yn fyw ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd i hyrwyddo’r ardal.
Meddai Amy Sumner, Rheolwr Marchnata Llyfrgell Gladstone,
“Mae Llyfrgell Gladstone wrth ei bodd i fod yn rhan o lwybr cylchol y gogledd-ddwyrain, sy’n cynnwys toreth o safleoedd pwysig a hardd. Rydyn ni’n arbennig o falch ein bod yn gweithio’n agosach gyda’r cynghorau lleol a busnesau a sefydliadau eraill ar y llwybr, ac yn edrych ymlaen at groesawu a chyflwyno ymwelwyr newydd i’r Llyfrgell.”
Thema Wythnos Twristiaeth Cymru eleni yw “Cryfder drwy Bartneriaeth”, sy’n adlewyrchu’r ymdrechion a wnaed gan gynghorau’r gogledd i ymwneud â’r diwydiant twristiaeth yn y rhanbarth drwy gydol yr ymgyrch – gyda’r nod o weithio gyda’n gilydd i wireddu’r manteision economaidd sy’n deillio o hyrwyddo’r rhanbarth yn ei gyfanrwydd, a manteisio ar y cyfleoedd sy’n cael eu cynnig gan Ffordd Cymru.
Bydd yr wythnos o ddigwyddiadau yn dechrau yn y Senedd ym Mae Caerdydd ar 14 Mai, gyda thros ugain o ddigwyddiadau eraill yn cael eu cynnal ledled Cymru yn ystod yr wythnos.
Mae mapiau ar gael i’w llwytho i lawr am ddim o heddiw ymlaen o http://www.northeastwales.wales/eich-blwyddyn-y-mor/ffordd-y-gogledd/?lang=cy.
Mae’r prosiect yma wedi’i ariannu drwy’r Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol a’i gefnogi gan gronfa Cymunedau Gwledig – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru, sef y Gronfa i wella’r profiad i ymwelwyr a chreu cyrchfannau cryfach drwy weithio gyda’n gilydd.