Cwestiynau Cyffredin Blaenau Gwent

Cwestiynau Cyffredin

Rydym yn gobeithio y bydd eich cwestiynau’n cael eu hateb yn y Cwestiynau Cyffredin hyn. Os nad yw eich cwestiwn yma, yna cysylltwch â ni yn yn alyson.tippings@blaenau-gwent.gov.uk a byddwn yn hapus i helpu.

Pwy all ddod yn Llysgennad Blaenau Gwent?

  • Os ydych yn gweithio mewn twristiaeth
  • Os ydych yn gweithio gydag ymwelwyr
  • Os ydych yn byw yn yr ardal
  • Os ydych yn astudio yn yr ardal

Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn y cynllun neu sy’n dymuno dyfnhau eu gwybodaeth am bopeth sy’n gwneud Blaenau Gwent yn lle arbennig gyfranogi a dod yn Llysgennad.

Beth yw’r modiwlau hyfforddi ar-lein?

Rydym yn cynhyrchu ystod o fodiwlau hyfforddi ar-lein rhyngweithiol am ddim i gynyddu gwybodaeth am Flaenau Gwent. Mae’r modiwlau’n canolbwyntio ar wahanol themâu, ac maent yn gymysgedd o destun, delweddau a ffilmiau.

Y 3 modiwl cyntaf yw:

Cyflwyniad i Flaenau Gwent
Trefi a Phentrefi Blaenau Gwent
Blaenau Gwent: Amgueddfeydd ac Archifau

Bydd rhagor o fodiwlau’n cael eu hychwanegu yn y misoedd nesaf.

A yw unrhyw rai o’r modiwlau’n orfodol?

Ydynt, mae 2 fodiwl cyntaf Cwrs Llysgennad Blaenau Gwent yn orfodol, a rhaid i chi eu cwblhau cyn cael mynediad at unrhyw fodiwl arall o’ch dewis. Y modiwlau gorfodol yw;

Cyflwyniad i Blaenau Gwent
Trefi a Phentrefi Blaenau Gwent

I ddod yn Llysgennad Lefel Efydd, bydd angen i chi gwblhau 3 modiwl; sef y ddau fodiwl gorfodol cyntaf, ac un arall o’ch dewis chi.

A fydd lefelau gwahanol o hyfforddiant?

Bydd, tair lefel.

  • Efydd – Cwblhau 3 modiwl
  • Arian – Cwblhau 6 modiwl
  • Aur – Cwblhau 9+ modiwl

Faint o fodiwlau ar-lein y mae angen i mi eu cwblhau i ddod yn Llysgennad Blaenau Gwent?

Er mwyn dod yn Llysgennad Blaenau Gwent (Efydd), rhaid i chi gwblhau 3 modiwl.

A fydd y modiwlau’n cael eu hasesu?

Byddant. Bydd profion sylfaenol i gadarnhau’r hyn rydych chi wedi ei ddysgu’n digwydd trwy gydol y modiwlau. 80% yw’r sgôr ‘llwyddo’. Bydd cyfleoedd i ail-wneud unrhyw fodiwlau.

Faint fydd yn ei gymryd i gwblhau pob modiwl?

Ar gyfartaledd, bydd pob modiwl yn cymryd oddeutu 30 munud i’w gwblhau (er y gallai rhai fod ychydig yn fyrrach/yn hwy).

A yw’r modiwlau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg?

Bydd yr holl fodiwlau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Sicrhewch eich bod yn cwblhau’r cwrs cyfan yn eich dewis iaith, oherwydd ni allwn warantu y byddwn yn cadw eich sgoriau os byddwch yn newid iaith.

A fydd unrhyw ddeunyddiau hyrwyddo ar gael ar gyfer dod yn Llysgennad Blaenau Gwent?

Bydd. Mae’r canlynol ar gael am ddim –

    • Tystysgrifau
    • Bathodynnau i chi eu hyrwyddo ar eich gwefan a’ch sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol

A fydd unrhyw gyfleoedd i fynd ar hyfforddiant wyneb-yn-wyneb i ychwanegu at yr hyfforddiant ar-lein?

Bydd. Bydd hyfforddiant a theithiau dysgu wyneb-yn-wyneb yn cael eu trefnu i ategu’r dysgu ar-lein a rhoi cyfle i bawb rwydweithio gyda Llysgenhadon eraill, rhannu arfer gorau a bwydo i mewn i gynllunio twristiaeth yn y dyfodol.

A fydd y modiwlau’n cael eu diweddaru neu rai newydd yn cael eu cyflwyno?

Byddant – bydd modiwlau’n cael eu diweddaru yn ôl yr angen. Bydd modiwlau newydd yn cael eu cyflwyno yn ôl yr angen.

A fydd unrhyw adnoddau ar-lein eraill ar gael?

YBydd – mae gan y wefan adran ‘Adnoddau’ lle gallwch ddod o hyd i lu o wybodaeth ddefnyddiol a dolenni i ategu’r modiwlau.

Llysgennad Twristiaeth Wrecsam, efydd - Wrexham Tourism Ambassador, bronze

Diweddaraf o’r blog