Mae cynllun ar-lein sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n darparu hyfforddiant a gwybodaeth i bobl am rinweddau arbennig ardaloedd o Gymru yn annog mwy o bobl i gymryd rhan a bod yn Llysgennad yn ystod Wythnos Dwristiaeth Cymru a gynhelir rhwng 15 a 21 Mai.
Enillodd Cynllun Llysgenhadon Cymru y wobr sgiliau yng Ngwobrau Twristiaeth Gogledd Cymru. Mae’n ffordd wych o ddwysau eich gwerthfawrogiad o le a dysgu mwy am ei nodweddion unigryw. Mae’n rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. Cynigir cyfres o fodiwlau ar-lein ar amrywiaeth o themâu. Mae hyn yn cynnwys y Gymraeg, cymunedau, diwylliant, hanes, tirluniau, twristiaeth gynaliadwy, beicio a cherdded. Mae yna 3 lefel o wobrau – efydd, arian ac aur, yn dibynnu ar nifer y modiwlau a gwblheir. Anfonir gwobrau gan gynnwys tystysgrifau a bathodynnau i bawb sy’n cwblhau’r lefelau.
Sir Ddinbych oedd y cyntaf i lansio cwrs ar-lein o’i fath yng Nghymru. Ers hynny mae Parciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog, Conwy, Gwynedd, Ynys Môn, a Sir Gaerfyrddin wedi lansio cyrsiau ac mae Sir y Fflint, Wrecsam a Cheredigion yn brysur yn paratoi i lansio yn ddiweddarach eleni, yn ogystal â chwrs Llysgennad Diwylliannol Cymru gyfan. Mae Llysgenhadon yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer amrywiol gyrsiau i ddysgu mwy am Gymru a bod yn rhan o gymuned ehangach.
Cynhelir Wythnos Dwristiaeth Cymru ym mis Mai bob blwyddyn er mwyn codi proffil y diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Mae pwysigrwydd economaidd a chymdeithasol twristiaeth ar gynnydd, ac mae’n un o’r pethau sy’n cyfrannu fwyaf at swyddi lleol, busnesau lleol a’r economi leol.
Dywed Rachel Simpson o Artychoke yn Llandudno, sydd wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o sefydlu’r cynlluniau:
“Mae niferoedd ac adborth ein Llysgenhadon yn dangos bod pobl wir wedi mwynhau’r pynciau amrywiol ym mhob un o’r cyrsiau. Gallwch ddysgu mwy am hanes, bwyd a diod, chwedloniaeth, atyniadau a gweithgareddau sydd ar gael yn eich ardal chi o Gymru. Mae nifer o Lysgenhadon wedi mynd ymlaen i ymgymryd â mwy nag un cwrs! Mae’r cyngor ‘Oeddech chi’n gwybod’ yn arbennig o boblogaidd, ac yn tynnu sylw at ffeithiau diddorol sy’n meithrin angerdd mewn pethau yr oeddem eisoes yn eu gwybod ac yn dod â nhw yn fyw. Mae’n wych gweld faint o bobl sy’n barod i gymryd rhan er mwyn deall a gwarchod rhinweddau eithriadol Cymru.”
Mae dros 3,200 o bobl wedi cofrestru ar o leiaf un o’r cyrsiau ar y wefan gyda 2,245 yn ennill tystysgrif lefel efydd ar draws yr holl gyrsiau. Mae dros 5,500 o dystysgrifau efydd, arian ac aur wedi eu dyrannu i Lysgenhadon, nid yn unig o fewn Cymru ond ar draws y DU a thu hwnt.
Dywedodd y Cynghorydd Win-Mullen James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:
“Mae’n galonogol iawn gweld y prosiect arloesol hwn a ddechreuodd yn Sir Ddinbych yn mynd o nerth i nerth, gyda mwy o Awdurdodau a Pharciau Cenedlaethol yn buddsoddi yn y cynllun ac yn cydweithio ledled Cymru. Mae Sir Ddinbych yn ymroddedig i reoli’r cynllun a pharhau i weithio gyda’n partneriaid i ganfod cyfleoedd newydd.”
Dywedodd Tony Vitti, Canolfan Groeso y Rhyl:
“Mae Cynllun Llysgenhadon Sir Ddinbych wedi bod yn amhrisiadwy i Staff y Ganolfan Groeso yn y Rhyl er mwyn ychwanegu at eu gwybodaeth am yr ardal. Rydym wedi darganfod pethau diddorol wrth ymgymryd â’r cwrs ac wedi cael ein hatgoffa am rai o’r perlau cudd sydd i’w canfod i ffwrdd o’r cyrchfannau poblogaidd, a gallu annog ein cwsmeriaid i ymweld â nhw. Mwynheais yn arbennig y modiwl am Ddyffryn Clwyd, y modiwl diweddaraf i gael ei ychwanegu, gan mai dyna ble rwyf yn byw. Roedd yn braf dysgu ychydig bach mwy am fy ardal leol.
Hefyd, rydym wedi ymgymryd â’r holl gyrsiau eraill gan Gynllun Llysgenhadon Cymru: Mae nifer o’n cwsmeriaid sy’n aros yn Sir Ddinbych yn defnyddio’r ardal fel porth i ardal ehangach gogledd Cymru. Mae cwrs Llysgennad Eryri wedi ein helpu ni i’w helpu nhw i lefel uwch nag o’r blaen. Rydym hefyd yn Llysgenhadon Gwynedd, Conwy, Ynys Môn, Bannau Brycheiniog a Sir Gâr, ac mae’r wybodaeth yr ydym wedi’i dysgu o’r cyrsiau yn ne Cymru wedi ein helpu mewn dwy sefyllfa benodol yn ddiweddar: Roedd gennym gwsmeriaid o’r Unol Daleithiau oedd â thocynnau BritRail i deithio o un pen o Gymru i’r llall a llwyddom i’w helpu i ganfod pethau i’w gwneud yn ddiweddarach ar eu siwrnai; a’r wythnos ddiwethaf llwyddom i helpu teulu o Ffrainc a oedd yn symud ymlaen o’u llety yn Llanelwy i ymweld â Thalacharn. Credaf fod y cyrsiau yn adnodd gwych. Hyd yn oed os nad ydych yn dod ar draws ymwelwyr yn ddyddiol, mae llawer o bethau i’w dysgu y gallwch chi fanteisio arnynt ac ymweld â nhw eich hun. Rydw i’n bendant wedi gwneud hynny.”