Mae cyfres o deithiau ymgyfarwyddo i amrywiaeth o lefydd ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru wedi bod yn boblogaidd iawn gyda busnesau lleol. Wedi’u cynllunio i amlygu cyrchfannau diddorol ac allweddol i fusnesau twristiaeth lleol; mae’r teithiau wedi bod yn boblogaidd iawn, gan alluogi i fusnesau, grwpiau lleol a gwirfoddolwyr rannu’r wybodaeth ac annog ymwelwyr i dreiddio’n ddyfnach i hanes, diwylliant, tirweddau, atyniadau, a lleoliadau lletygarwch lleol.
Wedi’i drefnu gan Gyngor Sir Ddinbych mewn partneriaeth â Wrecsam a Sir y Fflint, mae dros 60 o fusnesau a 170 o bobl wedi mynychu i gyd. Mae’r 6 thaith wedi cynnwys cerdded Safle Treftadaeth y Byd 11 milltir o hyd – Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte, teithiau tu ôl i’r llenni yn Theatr Clwyd a Bryn Beili yn yr Wyddgrug, ymweld â chestyll Dinbych, Rhuddlan, Y Waun a’r Fflint a thaith o amgylch canol dinas Wrecsam yn archwilio Tŷ Pawb, Xplore!, Amgueddfa Wrecsam a dringo tŵr yn Eglwys y Plwyf San Silyn. Mae’r teithiau olaf wedi cynnwys ymweliadau â Rhuthun, Dinbych, Llanelwy a Bodelwyddan i ddysgu mwy am y celfyddydau a threftadaeth leol, galw yn Nantclwyd y Dre, Yr Hen Lys, y Carchar a’r Ganolfan Grefftau yn Rhuthun, Llyfrgell Dinbych a Muriau’r Dref, Eglwys Gadeiriol Llanelwy, a’r Eglwys Farmor gerllaw. Darganfu’r grŵp fwy am leoliadau arfordirol y Rhyl, Prestatyn a Thalacre yn ystod y daith olaf, yn ogystal â stop olaf yn safle’r gwaith arfau ym mhentref Rhyd-y-mwyn – diwydiant a chwaraeodd ran allweddol yn ein hanes yn ystod y rhyfel.
Cafodd tywyswyr teithiau lleol eu recriwtio i dywys pob taith. Meddai Sarah Jones, Tywysydd Bathodyn Glas Cymru, sydd wedi arwain a mynychu llawer o’r teithiau:
“Diolch yn fawr iawn am yr holl deithiau ymgyfarwyddo gwych. Roeddwn i’n falch iawn o ymweld â’r arfordir yn ddiweddar – dyma ardal rydw i eisiau darganfod mwy amdani. Mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn ailymweld â llawer o lefydd lleol i ddysgu mwy am hanes a diwylliant lleol, a fydd o ddefnydd mawr i mi ar deithiau yn y dyfodol. Rwy’n gobeithio y gall y teithiau barhau gan eu bod mor fuddiol i’r holl fusnesau amrywiol yn Sir Ddinbych ac yn helpu i hyrwyddo’r ardal mor dda.”
Meddai Richard Hughes, perchennog Maes Gwersylla a Bwthyn Bracdy ger Dinbych:
“Diolch yn fawr iawn am drefnu’r holl deithiau addysgiadol. Maent wedi darparu llawer o syniadau i mi eu trosglwyddo i’n hymwelwyr sydd eisoes yn mwynhau Dyffryn Clwyd a’r ardaloedd cyfagos. Mae’r tywyswyr i gyd wedi bod yn wybodus iawn ac yn gallu ateb unrhyw gwestiynau. Mae hefyd wedi bod yn wych cyfarfod â busnesau eraill a rhannu profiadau.”
Mae’r prosiect hwn wedi cael arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Mae’r teithiau’n rhan o Gynllun ehangach Llysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych, sy’n rhoi hyfforddiant a gwybodaeth i bobl am rinweddau arbennig y sir. Mae cyfres o fodiwlau ar-lein ar amrywiaeth o themâu ar gael i bawb, yn rhad ac am ddim. Mae hyn yn cynnwys cerdded, beicio, hanes, y celfyddydau, yr iaith Gymraeg, yr arfordir, twristiaeth gynaliadwy a bwyd. Mae yna 3 lefel o wobrau – efydd, arian ac aur, yn dibynnu ar nifer y modiwlau a gwblheir. Sir Ddinbych oedd y cyntaf i lansio cwrs ar-lein o’i fath yng Nghymru. Ers hynny mae Parciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog, Conwy, Gwynedd, Ynys Môn, a Sir Gaerfyrddin wedi lansio cyrsiau ac mae Sir y Fflint, Wrecsam a Cheredigion yn brysur yn paratoi i lansio yn ddiweddarach eleni.