Rôl Llysgennad: I gynrychioli cynlluniau amrywiol Llysgennad Cymru wrth rannau gwybodaeth a ddysgwyd trwy’r rhaglenni, gydag unrhyw unigolyn/unigolion sydd â diddordeb.
Disgwyliadau: Bydd pob Llysgennad Cymru, fel cynrychiolwyr o’r amrywiol gynlluniau, yn rhannu gwybodaeth gywir gan rwydweithio mewn ffordd gyfeillgar. Fel cynrychiolwyr o’r cynlluniau amrywiol dylai Llysgenhadon ddangos parch tuag at gymunedau, ymwelwyr, trigolion, staff ac at ei gilydd. Disgwylir i’r holl Lysgenhadon ddilyn safonau Côd Ymddygiad Llysgennad Cymru o ganlyniad, gall bob Llysgennad unigol fod yn hyderus fod eu Cyd-Lysgenhadon wedi ymrwymo i ymddwyn yn unol â’r safonau hyn.
Mewn perthynas â’r uchod, disgwylir i Lysgenhadon wneud y canlynol:
- Parchu ymwelwyr, cymunedau a staff yr amrywiol sefydliadau sy’n arwain ar ycynlluniau.
- Rhannu’r wybodaeth a ddysgwyd mor eang â phosib ac annog mwy i gymrydrhan yn y cynlluniau amrywiol.
- Annog ymddygiad cyfrifol wrth ymweld â’r ardaloedd a gwmpesir gan y cynlluniau.
- Dathlu’r iaith Gymraeg dwy ddysgu a defnyddio enwau cynhenid lleoliadau.
- Arwain drwy esiampl – nid yw bod yn Llysgennad yn rhoi dimhawliau/awdurdod ychwanegol i unrhyw unigolyn.
- Dilyn y Côd Cefn Gwlad a chanllawiau Mentra’n Gall.
- Cefnogi ymgyrch Addo Croeso Cymru.
- Dilyn canllawiau a chyngor gan y sefydliadau sy’n arwain ar y cynlluniau ac unrhyw Awdurdod perthnasol ar weithgareddau hamdden – gan gynnwys parcio, gwersylla a gwaredu â sbwriel yn gyfrifol.
- Diweddaru eu gwybodaeth yn gyson a bod yn ymwybodol o unrhyw ddatblygiadau a’r wybodaeth ddiweddaraf am yr ardal e.e. drwy ddefnyddio adran adnoddau ychwanegol y cynlluniau neu gyflawni’r cwrs ailgymhwyso (os yn berthnasol).
Gall methiant i gydymffurfio â’r rhwymedigaethau uchod arwain tuag at ddiddymu unrhyw achrediad a enillwyd drwy gynllun Llysgennad Cymru.