Mae cynllun ar-lein sy’n rhoi hyfforddiant a gwybodaeth i bobl am rinweddau arbennig ardaloedd yng Nghymru yn parhau i ehangu.
Caiff Wythnos Addysg Oedolion ei chynnal yn ystod mis Medi ac mae cofrestru i ddod yn Llysgennad Cymru yn gyfle gwych i ddysgu rhywbeth newydd y mis hwn. Gall dysgu parhaus gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl; pa un a ydych chi am ddysgu rhagor am yr ardal, gwella rhagolygon swyddi neu gyfarfod â phobl newydd, mae dod yn Llysgennad yn ffordd wych o ddwysáu eich gwerthfawrogiad o le.
Cynigir cyfres o fodiwlau ar-lein ar amrywiaeth o themâu sy’n berthnasol i bob ardal. Mae hyn yn cynnwys yr iaith Gymraeg, cymunedau, diwylliant, hanes, twristiaeth gynaliadwy, beicio a cherdded. Mae 3 lefel o wobrau – efydd, arian ac aur, yn dibynnu ar nifer y modiwlau a gaiff eu cwblhau. Caiff gwobrau gan gynnwys tystysgrifau a bathodynnau eu hanfon i bawb sy’n cwblhau’r lefelau. Mae’n rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. Mae preswylwyr, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol lleol yn cael eu hannog yn benodol i ddod yn Llysgenhadon, ac i ddysgu rhagor am nodweddion unigryw pob ardal.
Sir Ddinbych oedd y cyntaf i lansio cynllun ar-lein o’i fath yng Nghymru. Mae Parciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog, Conwy a Gwynedd wedi lansio cyrsiau ac mae Sir y Fflint, Sir Fôn, Ceredigion a Sir Gâr yn prysur baratoi ar gyfer lansio yn ddiweddarach eleni. Mae Llysgenhadon yn cael eu hannog i gofrestru ar fwy nag un cwrs i ehangu ar eu dysgu am Gymru a bod yn rhan o’r gymuned ehangach.
Dywedodd Rachel Simpson o Artychoke yn Llandudno sydd wedi bod yn allweddol wrth sefydlu’r cynllun:
“Rydym ni wedi ein rhyfeddu o ran nifer y bobl sydd wedi mwynhau mynd drwy’r modiwlau a’r cwisiau i ddysgu am hanes, diwylliant, bwyd a diod, arwyr, gweithgareddau a thrysorau cudd sydd eto i’w darganfod. Mae ffeithiau rhyfeddol ‘Oeddech chi’n gwybod’ yn benodol yn llwyddiant gan eu bod nhw’n ychwanegu cymeriad i’r hyn yr ydych chi efallai’n ei wybod yn barod, ac yn cynnig llefydd newydd i’w gweld a gwell dealltwriaeth o Gymru a bywyd Cymreig. O’r cyfriniol i’r cwbl ymarferol, byddwch yn canfod rhywbeth a fydd o ddiddordeb i chi yng nghynnwys y cwrs.”
Mae dros 2,600 o bobl wedi cofrestru ar o leiaf un o’r cyrsiau ar y wefan ac mae 1,684 wedi ennill tystysgrif lefel efydd ar draws 5 cwrs. Mae 4,330 o dystysgrifau efydd, arian ac aur wedi eu rhoi i Lysgenhadon, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU a thu hwnt.
Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen-James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:
“Mae’n galonogol iawn gweld y prosiect arloesol hwn a ddechreuodd yn Sir Ddinbych yn mynd o nerth i nerth ac mae rhagor o Awdurdodau a Pharciau Cenedlaethol yn buddsoddi yn y cynllun ac yn cydweithio ledled Cymru. Mae Sir Ddinbych wedi ymrwymo i reoli’r cynllun a pharhau i weithio gyda’n partneriaid i ymchwilio i gyfleoedd a datblygiadau newydd.”
Dywedodd Paul Hughes, arweinydd grwpiau cerdded i Mind Dyffryn Clwyd:
“Dewisais ddod yn Llysgennad oherwydd ei fod yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi, mae bob amser yn ddefnyddiol i gael rhagor o wybodaeth pan rydych chi’n tywys pobl ar deithiau cerdded ac yn mynd â phobl i gerdded mewn gwahanol ardaloedd. Mae’r cwrs am ddim sydd bob amser yn helpu. A gallwch chi ei wneud gartref dros gwpl o nosweithiau yr wythnos, felly mae’n wych. Does dim y fath beth â gormod o wybodaeth fel maen nhw’n ei ddweud, mae bob amser yn braf dysgu rhywbeth newydd.”
Am ragor o wybodaeth am y cynllun ac i gofrestru, ymwelwch â www.llysgennadsirddinbych.cymru