Beth yw’r
Cynllun Llysgennad?
Mae’r cynllun hwn yn rhoi cyfle i hyfforddi ar lein i wella’ch gwybodaeth am y cyfan sydd gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i’w gynnig i ymwelwyr; ei dirweddau syfrdanol, anturiaethau awyr agored, diwylliant bywiog a threftadaeth gyfoethog.
Pan fyddwch yn dod yn Llysgennad Bannau Brycheiniog byddwch yn chwarae rhan bwysig mewn cyfoethogi profiadau ymwelwyr yn gyffredinol.
“Roeddwn yn gallu wneud yr unedau yn fy amser rhydd. Rwyf wedi ennill gwybodaeth newydd, sy’n ddiddorol iawn. Mae hynny wedi fy hysbrydoli i fynd ac i ymweld a rhai o’r lleoedd sy’n cael eu crybwyll a bydd hynny’n defnyddiol iawn wrth i mi argymell i’m gwesteion gael y teimlad go iawn o synnwyr o le Bannau Brycheiniog.”
Beth yw manteision dod yn Llysgennad?
I Chi
Ymestyn eich gwybodaeth leol o’r ardal
Darparu profiad hyd yn oed yn well i’r cwsmer
Rhoi hwb i'ch hyder wrth rannu gwybodaeth am Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gydag eraill
Ennill sgiliau newydd i ychwanegu at eich CV
Cyfle i ddathlu a chael balchder ac angerdd dros ein rhanbarth hardd
Rhannu syniadau ac ymarfer gorau gyda phobl o’r un meddylfryd
Bod yn rhan o grŵp sy’n rhannu’r un diddordeb
I’ch Busnes
Mae’n cynnig rhaglen barod, am ddim, o sefydlu staff
Cyfleoedd cysylltiadau cyhoeddus
Help gydag ysgogi a chadw staff
Help i gynyddu teyrngarwch ac ail ymweliadau
Help i hybu economi Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Darparu profiad unigryw a gwirioneddol i ymwelwyr
Help i gynyddu’r nifer o ymwelwyr, hyd eu harhosiad a’u gwariant
Ffordd syml ac am ddim o ychwanegu gwerth at eich busnes
Help i ddatblygu a chynnal pen ein teithiau
Mynediad at amrywiaeth o adnoddau gwerthfawr ar lein am ben ein teithiau y gallwch eu rhannu gyda’ch ymwelwyr
Diweddaraf o’r blog
Cwrs wedi'i ariannu gan